Dim Joe Allen yng ngharfan Cymru (llun: Nick Potts/PA)
Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Cyprus ac Israel yn y ddwy gêm ragbrofol Ewro 2016 ym mis Medi.
Does dim syndod mawr ymhlith y rheiny sydd wedi’u dewis, ond dyw Joe Allen ddim wedi cael ei gynnwys oherwydd anaf.
Dyw Jonny Williams, George Williams nag Emyr Huws wedi cael eu cynnwys chwaith, gyda phob un ohonyn nhw’n dal i adennill ffitrwydd ar ôl anafiadau.
Mae prif sêr eraill y tîm gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ashley Williams a Wayne Hennessey i gyd wedi’u henwi, fodd bynnag.
Mae lle hefyd i Jordan Williams, y chwaraewr ifanc o Lerpwl sydd ar fenthyg yn Swindon ac yn gallu chwarae fel amddifynnwr neu yng nghanol cae.
Ond does dim lle i’r chwaraewr canol cae David Vaughan na’r amddiffynnwr Paul Dummett, gyda Vaughan yn absennol oherwydd materion teuluol.
Os yw Cymru’n ennill y ddwy gêm, yn erbyn Cyrpus ar 3 Medi ac Israel ar 6 Medi, fe fyddan nhw’n sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewro 2016.
Carfan Cymru
Wayne Hennessey (Crystal Palace)
Danny Ward (Lerpwl, ar fenthyg yn Aberdeen)
Owain Fôn Williams (Inverness)
Ashley Williams (Abertawe)
James Chester (West Bromwich Albion)
James Collins (West Ham United)
Ben Davies (Tottenham Hotspur)
Chris Gunter (Reading)
Neil Taylor (Abertawe)
Adam Henley (Blackburn Rovers)
Ashley Richards (Fulham)
Andy King (Caerlŷr)
Joe Ledley (Crystal Palace)
Aaron Ramsey (Arsenal)
Jordan Williams (Lerpwl, ar fenthyg yn Swindon Town)
David Edwards (Wolverhampton Wanderers)
Shaun MacDonald (AFC Bournemouth)
Gareth Bale (Real Madrid)
Hal Robson-Kanu (Reading)
Sam Vokes (Burnley)
Simon Church (MK Dons)
David Cotterill (Birmingham City)
Tom Lawrence (Caerlŷr, ar fenthyg yn Blackburn Rovers)