Warren Gatland
Mae cyn-faswr Cymru Jonathan Davies wedi awgrymu na fydd Warren Gatland yn gallu fforddio rhoi seibiant i’r un o’i brif sêr yn eu hymgyrch Cwpan y Byd.
Bydd Cymru’n herio Awstralia, Lloegr, Fiji ac Uruguay yn eu grŵp pan fydd y twrnament yn dechrau fis nesaf, o bosib y grŵp mwyaf heriol mae’r gystadleuaeth erioed wedi’i weld.
Does gan Gymru ddim digon o ddyfnder yn eu carfan, fodd bynnag, i newid eu tîm er mwyn sicrhau bod pawb yn ffres ar gyfer y gemau mawr, yn ôl Jonathan Davies.
Ychwanegodd y cyn-chwaraewr, sydd bellach yn gyflwynydd teledu, na fydd Gatland ofn gwneud penderfyniadau mawr a dadleuol pan fydd yn cyhoeddi ei garfan derfynol dydd Llun.
‘Peidiwch newid y tîm’
Bydd Cymru yn herio Iwerddon yn Nulyn y penwythnos hwn, cyn croesawu’r Eidal i Gaerdydd wythnos yn ddiweddarach, ond rhwng y ddwy gêm honno fe fydd y garfan yn cael ei chwtogi o 38 i 31 chwaraewr.
Ond erbyn i’r gystadleuaeth ddechrau mae Jonathan Davies yn credu y bydd yn rhaid i Gatland ymddiried yn ei bymtheg cryfaf.
“Mae ganddyn nhw saith gêm ar y mwyaf, os ydych chi’n ennill saith gêm rydych chi’n ennill Cwpan y Byd,” meddai Jonathan Davies wrth siarad â PA Sport.
“Chwarae eich tîm gorau chi ar gyfer bob gêm, oni bai am ambell anaf, fydden i’n ei wneud. Os collwch chi un gêm, siawns ydi y byddwch chi allan o Gwpan y Byd, ac i fi bydd y cryfder meddyliol yna’n allweddol i Gymru.
“Mae’n rhaid i chi feddwl eich bod chi am chwarae pob gem achos dydw i ddim yn meddwl bod y chwaraewyr wrth gefn yn gwthio digon, sydd efallai yn un gwendid yng ngêm Cymru.”
Penderfyniadau mawr
Mae Mike Phillips, Richard Hibbard a James Hook eisoes ymysg y chwaraewyr sydd wedi cael eu diosg o’r garfan, ac mae Jonathan Davies yn disgwyl penderfyniadau’r un mor anodd dydd Llun.
“Mae pawb yn gwybod fod e ddim ofn defnyddio’r fwyell – mae e wedi gwneud hynny gyda Chymru a’r Llewod,” meddai Jonathan Davies.
“Mae’n gwneud e achos fod e’n credu mai dyna’r peth iawn, ac mae e wedi bod yn llwyddiannus. Mae e’n bendant iawn yn ei ddewisiadau.”
Dyw hi ddim yn syndod gweld Seland Newydd yn ffefrynnau i ennill tlws William Webb Ellis unwaith eto, yn ôl Jonathan Davies – ond mae’n disgwyl i Gymru gystadlu â’u gwrthwynebwyr grŵp, gan gynnwys yr hen elyn, bob cam i’r ffordd.
“Fe all Cymru guro Lloegr. Falle bod Lloegr yn dechrau fel ffefrynnau o ychydig achos eu bod nhw’n chwarae gartref, ond dyna’r unig reswm,” ychwanegodd Jonathan Davies.