MK Dons 2-1 Caerdydd
Mae Caerdydd allan o Gwpan y Gynghrair ar ôl colli oddi cartref yn erbyn MK Dons yn yr ail rownd nos Fawrth.
Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn Stadium mk ond tarodd y tîm cartref yn ôl gyda gôl hwyr i unioni cyn ei hennill hi wedi amser ychwanegol.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Alex Revell yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod gydag ergyd dda o ongl dynn.
Felly ar arhosodd pethau tan ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg pan unionodd Carl Baker y sgôr i orfodi hanner awr ychwanegol.
Y tîm cartref gafodd y gorau o’r amser ychwanegol hwnnw wrth i Josh Murphy ennill y gêm iddynt.
.
MK Dons
Tîm: Cropper, Spence, Upson, McFadzean, Hodson, Aguza (Carruthers 62′), Poyet, Baker, Benavente (Hall 61′), Murphy, Powell (Gallagher 62′)
Goliau: Baker 78’, Murphy 108’
Cardiau Melyn: Carruthers 90’, Spence 90’, Cropper 120’
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Connolly, Morrison, Ecuele Manga, Fabio, Ameobi, Ralls (Dikgacoi 71′), O’Keefe (Peltier 90′), Noone, Doyle, Revell (Macheda 82′)
Gôl: Revell 53’
Cerdyn Melyn: Morrison 102’
.
Torf: 5,617