Llys y Goron Merthyr Tudful
Mae dyn 26 oed o Ferthyr Tudful wedi cyfaddef cynnau tân mewn capel hanesyddol yn Aberfan oherwydd ei fod yn cael gwefr o weld y frigâd dân yn cyrraedd.

Yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw, plediodd Daniel Brown, 26, yn euog o losgi bin sbwriel yn fwriadol a llosgi bwriadol yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd yn cael ei beryglu yng  Nghapel Aberfan ar 11 Gorffennaf.

Clywodd y llys ei fod wedi dweud wrth ddiffoddwyr tân ei fod wedi rhoi ei dŷ ei hun ar dân pan oedd yn naw mlwydd oed a’i fod yn cael gwefr o weld y frigâd dân yn cyrraedd tân oedd o wedi ei gynnau.

Dywedodd y barnwr wrth Daniel Brown ei fod yn wynebu dedfryd o garchar. Roedd pedwar tŷ gerllaw’r capel wedi cael eu gwagio yn ystod y tân hefyd.

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio am bedair wythnos er mwyn casglu rhagor o wybodaeth ynghyd â datganiad gan gynghorydd am effaith y tân ar y gymuned leol.

Yn ystod trychineb Aberfan yn 1966, cafodd y capel ei ddefnyddio fel marwdy dros dro ar gyfer cyrff rhai o’r 166 o blant ac oedolion a gafodd eu lladd pan lithrodd y domen lo ar ysgol gynradd a thai.