Perry Smith (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth, wedi i glaf 22 oed fethu â dychwelyd i’r ysbyty ddoe.

Fe aeth Perry Smith ar ymweliad dydd â chanol tre’r Fenni ddoe, ond fe fethodd â dychwelyd i Ysbyty Llys Llanarth. Does neb wedi ei weld ers 10.30yb ddoe, pan oedd yn cerdded o orsaf fysiau’r Fenni i gyfeiriad canol y dre’.

Ar y pryd roedd yn gwisgo côt law werdd, crys-T Krishna o liw brown, trowsus du a phâr o drênars du o wneuthuriad Vans. Roedd yn cario rycsac cuddliw gwyrdd ar ei gefn.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sy’n ei weld i gysylltu â nhw ar y rhif 101. Maen nhw’n poeni y gallai fod mewn peryg, heb gymryd ei feddyginiaeth.