Andy Burnham
Mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi dychwelyd i Gymru i ymgyrchu, gan rybuddio y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud drwg i wedydd Prydain.

Fe fyddai gadael, meddai Andy Burnham, yn rhoi swyddi a’r economi gyfan yn y fantol. Dyna pam, meddai wedyn, ei bod hi’n bryd “gosod ein stondin” ac addo bod yn “Ewropead balch”.

Fe ddaeth ei rybudd, ar ei ymweliad â Phenlan, Abertawe, ac mewn ymateb i sylwadau Jeremy Corbyn, un arall sy’n sefyll am yr arweinyddiaeth, y gellid cynnal cynhadledd arbennig i benderfynu ar yr ymateb i becyn David Cameron o awgrymiadau i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd.

“Mewn ychydig dros flwyddyn (refferendwm ar aros yn Ewrop) mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu penderfyniad anferth,” meddai Andy Burnham. “Penderfyniad a fydd yn diffinio ein gwleidyddiaeth a’n gwlad am weddill y ganrif yma.

“Mae fflyrtio efo’r syniad o adael Ewrop yn rhoi swyddi pobol, cymunedau a’n llewyrch yn y dyfodol yn y fantol. Nid dyma’r amser i dorri i ffwrdd oddi wrth ein marchnad fwya’. Dyma pryd y dylen ni fod yn gosod ein stondin yn glir.

“Fe fyddai’r blaid Lafur y baswn i’n ei harwain yn mynd ati’n syth bin i sicrhau ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Andy Burnham. “Fe fyddai’n tyfu o’r gwaelod i fyny, gan sefydlu unedau pro-Ewropeaidd ledled y wlad, ac yn cynnig dadl groes i un y Toriaid Ewro-sgeptig.”