Mae cartref i’r henoed sy’n gartref i’r ddynes hynaf yng Nghymru, wedi agor bar i’r preswylwyr.

Gan gynnwys Gwenllian Davies, fydd yn 110 ar 4 Hydref, mae Cartref Gofal Awel Towi yn Ffairfach ger Llandeilo hefyd yn gartref i dri person arall dros 100 oed.

Meddai rheolwr y cartref, Sharon Dyer, eu bod nhw wedi gofyn i’r trigolion beth oedden nhw’n hiraethu amdano fwyaf ar ôl symud yno.

Roedd cael peint neu lymaid yn y dafarn leol yn uchel ar y rhestr o ddymuniadau ac yn dilyn cefnogaeth gan dafarndai lleol a bragdai sydd wedi darparu’r addurniadau, mae’r lolfa dafarn wedi agor.

Dywedodd Sharon Dyer: “Yn y gorffennol, roedden ni’n trefnu teithiau i dafarn ar gyfer rhai o’n trigolion, ond roedd hi’n gwneud llawer mwy o synnwyr i ddefnyddio gofod sbâr yn y cartref ac adeiladu bar ein hunain.

“Yn ddibynnol pa feddyginiaeth mae’r trigolion arnynt, mae’n bosib iddyn nhw gael unrhyw beth o shandy i lemonêd neu drach bach o sieri neu wisgi.