Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth, wedi adroddiad fod dyn wedi’i ddinoethi’i hun yn anweddus i fam a’i merch ifanc yn ardal Bangor ddoe.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei weld ar Ffordd Penrhos, Penrhosgarnedd am 12.30yp ddoe.

Yn ol adroddiadau, roedd y dyn yn ei gar, ac fe ddinoethodd ei hun yn anweddus i fam a merch yn ei harddegau, cyn gyrru i ffwrdd yn ei gar Ford Focus.

Mae disgrifiadau’n dweud ei fod yn ei 20au hwyr neu ei 30au cynnar, gyda gwallt du, byr. Roedd yn gwisgo crys-T o liw du, a throwsus lliw khaki.