Steven Jones
Mae dyn o’r Coed Duon wedi’i ganfod yn ddiogel, wedi iddo gael ei riportio ar goll wedi cwffas ym Mhorthcawl dros y penwythnos.

Doedd neb wedi gweld Steven Jones ers iddo fod yn nhafarn High Tide ym Mhorthcawl nos Sadwrn diwethaf, ac roedd Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth ddoe.

Ond heddiw, mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod Steven Jones yn ddiogel.