Mae ymgeisydd y Torïaid yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’ o dan ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae cynghorydd sir ym Mhowys, Gary Price, wedi cael ei ddewis i sefyll yn etholaeth ymylol Brycheiniog a Sir Faesyfed – sedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams – ond honnir ei fod wedi dwyn anfri ar yr awdurdod lleol.

Yn ôl e-bost a gafodd ei anfon at gadeirydd Ceidwadwyr Cymru, Jonathan Evans, sydd wedi dod i law’r BBC, mae cwyn ffurfiol hefyd wedi cael ei wneud am y ffordd gafodd o’i ddewis fel ymgeisydd mewn cyfarfod cyhoeddus fis diwethaf.

Roedd Gary Price wedi sefyll dros Plaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011 ac fe gafodd ei wahardd dros dro fel cynghorydd ddwy flynedd yn ôl pan ddatgelodd wybodaeth sensitif a roddwyd iddo yn gyfrinachol.