Casey Paul Lyons (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn meddw a ymosododd ar ddyn arall yn ei fflat yn Y Rhyl, wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar.

Roedd Casey Paul Lyons, 26, wedi achosi niwed ofnadwy i ddyn arall – cymaint felly, nes bod ei ansawdd bywyd wedi newid am byth – a hynny trwy ei gicio a stampio ar ei ben, gadael ôl ei droed ar ei wyneb, ychydig uwchben y llygad.

Doedd Abid Khalid, 35, yn methu cofio dim am yr ymosodiad, nes iddo ddeffro yn yr ysbyty gydag anafiadau mawr i’w ymennydd.

Yn ystod noson o ymddwyn yn dreisgar ar Fehefin 22, 2014, fe glywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Casey Paul Lyons wedi codi ofn ar ddynes feichiog ac wedi dyrnu dyn arall yn y stryd.

Fe gyfaddefodd Casey Paul Lyons wneud niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a’i fod mor feddw nes nad oedd yn gallu cofio dim o’r hyn wnaeth y noson honno.