Catell Cydweli
Mae cyn-ddirprwy faer yn ei 20au wedi’i gael yn ddieuog o ymddwyn yn amhriodol gyda merch yn ei harddegau mewn seremoni swyddogol.

Roedd Ryan Thomas wedi gwadu cyffwrdd bronnau dynes 19 oed mewn seremoni urddo maes Cyngor Tref Cydweli yn 2014.

Ond heddiw, ar ddiwrnod cynta’r achos a oedd i’w gynnal yn Llys y Goron Abertawe, fe benderfynodd yr erlyniad ollwng yr achos yn erbyn y dyn 27 oed. Roedd wedi gwrthod ymddiheuro am ei ymddygiad.

Mewn datganiad a ddarllenwyd yn uchel gan yr amddiffyniad heddiw, meddai Ryan Thomas: “Yn ystod y seremoni ym Mai 2014 roedd llawer o alcohol wedi’i yfed yng nghwrs y prynhawn, gan bawb oedd yn bresennol, yn cynnwys fi fy hun.

“Rwy’n derbyn fy mod i’n feddwl ac efallai bod fy ymddygiad wedi bod yn amhriodol o ganlyniad. Rwy’n ymddiheuro am unrhyw loes a achoswyd.”