Maes Awyr Caerdydd
Fe fydd modd hedfan rhwng Caerdydd a Dulyn am £19.99 diolch i gynnig arbennig ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Bydd y cynnig o 25 o deithiau arbennig ar gael ym misoedd Medi a Hydref.

Yn gynwysiedig yn y pris mae mynediad i’r we, yr hawl i gario ail fag ar yr awyren, cadw seddi penodol, a gwasanaethau teuluol a busnes.

Mae gofyn i deithwyr sydd am fanteisio ar y cynnig archebu tocynnau cyn dydd Iau, Awst 20.

Wrth gyhoeddi’r manylion, dywedodd llefarydd ar ran Ryanair: “Bydd Ryanair yn cludo miloedd o gefnogwyr rygbi i Gymru ar gyfer Cwpan y Byd – a nawr gall cwsmeriaid o Gymru ddianc rhag y rygbi trwy fachu taith i Ddulyn yr hydref yma.

“Rydyn ni wedi amserlennu mwy na 25 o deithiau dwy ffordd rhwng Caerdydd a Dilyn – ar Fedi 18, 19 a 20, ac ar Hydref 10, 11, 12, 16, 17, 18 a 19 – felly ni fu amser gwell erioed i archebu’r daith honno i Ddulyn.

“Bydd seddi’n cael eu harchebu’n gyflym felly dylai cwsmeriaid fewngofnodi i wefan Ryanair.com i archebu eu taith heddiw.”