Mae Heddlu Gwent wedi arestio trydydd dyn, wrth iddyn nhw chwilio am griw wnaeth dwyn gwerth £20,000 o fisgedi o ffatri yn y de ddwyrain.

Fe gafodd trêar yn llawn bisgedi Burton’s Foods ei ddwyn o ffatri’r cwmni yng Nghwmbrân yn gynharach eleni.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod dyn 36 oed o Lerpwl wedi’i arestio ar amheuaeth o ladrata ac o gynllwynio i ddwyn. Daw hyn wedi arestiadau dau ddyn arall – dyn 27 oed o Swydd Caer, a dyn 35 oed o ardal Lerpwl.

Mae Heddlu Gwent hefyd wedi cadarnhau fod cerbydau a gafodd eu defnyddio yn y job wedi cael eu darganfod, wrth i’r ymchwiliad barhau.