Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau iechyd lleol.

Fe ddywedodd Mark Drakeford y bydd y buddsoddiad yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd i gynnig gofal yn nes at gartrefi pobol gan leihau’r pwysau ar ysbytai.

Ym mis Tachwedd y llynedd, creodd Llywodraeth Cymru gronfa gofal sylfaenol gwerth £3.5m, gyda mwy na’r hanner yn mynd at ddatblygu sgiliau staff sy’n gweithio yn y gymuned ac mewn meddygfeydd.

Cynnydd

Eleni, mae’r gronfa wedi codi i £40m er mwyn darparu “mwy o ofal o ansawdd uwch” yn nes at gartrefi pobol ac arbed pobol rhag gorfod teithio i’r ysbyty i gael eu gofal – gydag arian yn mynd at gynlluniau penodol.

  • Ymysg y gwasanaethau sy’n cael arian mae sesiynau ffisiotherapi mewn practis meddygon teulu yng ngogledd Cymru a phenodi pum meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
  •  Mae byrddau iechyd prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf hefyd wedi defnyddio rhan o’r gronfa gofal sylfaenol i fynd i’r afael â diffyg tegwch ym maes iechyd.