Y Sun yn tynnu sylw at eu stori egsgliwsif
Mae papur newydd wedi datgelu bod cyn-gynghorydd tref o Flaenau Ffestiniog yn bwriadu cael cymorth i farw mewn clinig yn Y Swistir heddiw.

Yn ôl y Sun, fe fydd Bob Cole yn mynd i glinig Dignitas y prynhawn yma er mwyn diweddu ei fywyd, ar ôl iddo gael gwybod bod ganddo fath ymosodol iawn o ganser yr ysgyfaint.

Fe fydd hynny’n digwydd flwyddyn a hanner ers iddo helpu ei wraig, Ann, i farw yn yr un lle.

‘Artaith’

“Does gen i ddim eisiau marw mewn artaith heb unrhyw urddas,” meddai Bob Cole wrth y papur newydd.

Roedd Bob Cole yn arfer cadw gwely a brecwast Bryn Elltyd yn y dref ac arwain teithiau mynydd ac Ann Cole yn weithwraig gymdeithasol.

Fe adawodd y ddau Flaenau Ffestiniog ar ôl iddi hi fynd yn wael, gan symud i fflatiau i bobol hŷn yn Swydd Caer.

Galw am gefnogaeth

Er ei bod yn anghyfreithlon i helpu rhywun arall i farw, chafodd Bob Cole ddim o’i holi gan yr heddlu ar ôl helpu ei wraig.

Mae bellach yn galw am gefnogath i fesur ‘help i farw’ sy’n cael ei drafod yn San Steffan yn nes ymlaen eleni.