Floyd Rice (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae lleidr a ddychrynodd bensiynwraig trwy ei chlymu i fyny gyda chêbl ffôn yn ei llofft, wedi cael ei anfon i’r carchar am wyth mlynedd.

Roedd Beryl Williams, 88, yn pendwmpian yn ei chartre’ yn ninas Bangor pan ddaeth lleidr i mewn i’w chartre’, rhoi cadach dros ei hwyneb, a dweud wrthi am fod yn dawel, cyn mynnu cael gwybod lle’r oedd hi’n cadw ei harian.

Tra’r oedd y lleidr yn chwilio am y pres, fe ffoniodd y bensiynwraig yr heddlu gyda’r ffôn nesa’ at ei gwely.

Roedd y diffynnydd, Floyd Rice, 39, hefyd o Fangor, wedi gwadu lladrata wrth iddo roi tystiolaeth i Lys y Goron Yr Wyddgrug.

“Sut allai neb drin rhywun arall yn y fath fodd, fel y gwnaethoch chi, mae’n anodd iawn gen i ddeall,” meddai’r Barnwr Hale wrth ddedfrydu Floyd Rice, “a hynny am ddim ond ychydig o bunnoedd.”