Y caiac gwag (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi i gaiac gwag gael ei weld yn arnofio oddi ar arfordir Abertawe neithiwr.

Wedi i’r caiac – yn cynnwys siacedi diogelwch, rhwyfau ac eitemau eraill – gael eu darganfod o gwmpas 8yh neithiwr, fe fu Gwylwyr y Glannau a hofrenyddion yr RAF yn rhan o’r ymdrech i chwilio’r dyfroedd o gwmpas arfordir Abertawe.

Mae hofrennydd yr heddlu wedi bod yn chwilio’r ardal eto fore heddiw.

“Dyw’r ymdrechion ddim wedi dod o hyd i neb hyd yn hyn,” meddai datganiad gan Heddlu De Cymru. “Dydyn ni, chwaith, ddim wedi derbyn adroddiad fod neb ar goll neu mewn trafferthion.

“Ond, oes unrhyw un yn adnabod y caiac, mi fydden ni’n gwerthfawrogi petaen nhw’n cysylltu â ni ar y rhif 101.”