Glyn Davies - yn poeni
Bydd cynlluniau i ailstrwythuro y gwasanaeth iechyd yn Swydd Amwythig yn debyg o effeithio ar gleifion yn awdurdod iechyd Powys, yn ôl yr aelod seneddol Glyn Davies wrth i fanylion y cynlluniau gael eu cyhoeddi yr wythnos hon.

Yn ei flog personol, mae AS Maldwyn yn dweud ei fod yn “poeni ers misoedd” am yr effaith ar ei etholaeth – does dim ysbyty cyffredinol yno ac mae llawer o bobol yn defnyddio ysbytai yn Telford a’r Amwythig.

Ac mae’n pryderu nad yw pobol y Canobarth wedi cael rhoi eu barn ar y newidiadau, a’i bod bellach yn rhy hwyr.

Rhannu’r gwaith

Roedd Glyn Davies wedi gobeithio am ysbyty newydd rhwng y ddwy dref, meddai, ond mae hynny’n debyg o gael ei wrthod.

Y disgwyl yw y bydd un ysbyty’n arbenigo ar faterion brys a’r llall yn delio gyda thriniaethau wedi eu trefnu.

“Mae diwygio gwasanaeth iechyd yn Swydd Amwythig yn mynd i ddigwydd ac yn fuan,” meddai Glyn Davies,” ac os nad yw Cymru ddim yn wynebu’r diwygio hwn, mi fydd yn digwydd beth bynnag.

“Dw i’n ofni ein bod eisoes yn rhoi sylw ar benderfyniadau sydd wedi cael ei gwneud gan eraill, yn hytrach na chyfrannu at y penderfyniadau sy’n cael effaith arnon ni.”