Jeremy Corbyn (PA)
Ar drothwy ymweliad â Chymru, mae’r dyn sy’n arwain y ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yn dweud y byddai’n fodlon cydweithio gyda phleidiau cenedlaetholgar fel Plaid Cymru.

Yn ôl Jeremy Corbyn, pe bai angen cydweithio i sicrhau llywodraeth Lafur, fe fyddai’n fodlon gwneud hynny.

Roedd yr ymgeisydd asgell chwith yn ymgyrchu yn yr Alban lle’r oedd gwrthodiad Llafur i gydweithio gyda phlaid genedlaethol yr SNP y tro diwetha’ wedi cyfrannu at eu cwymp.

Y math o gytundeb

Petai Llafur ar y blaen ond heb ddigon i gael mwyafrif, fe ddywedodd y byddai’n fodlon creu cytundeb gyda phleidiau eraill fel yr SNP a Phlaid Cymru.

Fe fyddai hynny ar sail cytundeb o ddydd-i-ddydd neu gytundeb fesul pwnc ond mae ei agwedd yn sylfaenol wahanol i un y cyn-arweinydd Ed Miliband.

Dyma’r union ddyfyniad sydd ym mhapurau’r Alban:

“Os nad oes mwyafrif Llafur, ond lleiafrif, a bod rhaid i ni weithio gyda phleidiau eraill ar sail trefniant o ddydd-i-ddydd neu drefniant pwnc, yna gwnewch hynny. Mae’n amlwg bod rhaid i chi weithio gyda phleidiau eraill i gael pethau trwodd ac mi fyddwn i’n fodlon gwneud hynny.”

Dod i Gymru

Fe fydd Jeremy Corbyn yn dod i Gymru i ymgyrchu yr wythnos nesa’ ac yntau’n dal ar y blaen yn y polau piniwn mewnol.

Mae 21 o’r pleidiau etholaeth yng Nghymru – allan o gyfanswm o 40 – wedi ei gefnogi er fod ffigurau amlwg, fel Peter Hain, wedi siarad yn gry’ yn ei erbyn.

Tros y blynyddoedd, mae wedi pleidleisio’n gyson yn yr un lobi â Phlaid Cymru, hyd yn oed weithiau yn erbyn y chwip Llafur.