Russell Peachey
Dywed Heddlu’r De bod trydydd person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 35 oed yng Nghaerdydd.
Cafwyd hyd i Russell Peachey o Gaerdydd yn anymwybodol ar Stryd y Gogledd yn y brifddinas fore Sadwrn yn dilyn ymosodiad.
Cafodd ei ddarganfod am oddeutu 4.20yb gan yr heddlu, a’i gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.
Cafodd dyn 37 oed o’r Barri ei arestio yn hwyr neithiwr. Mae Heddlu’r De eisoes yn holi dau ddyn arall mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth.
Mae’r heddlu wedi diolch i aelodau o’r cyhoedd am eu cymorth gyda’r apêl am wybodaeth.
Maen nhw’n parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a oedd yn ardal Stryd y Gogledd, Stryd Thomas a Heol Penarth rhwng 3.30 a 4.20yb i gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500279043.