Y Pafiliwn Pinc ym Meifod
Efallai mai Meifod fydd ymddangosiad ola’ Pafiliwn Pinc enwog yr Eisteddfod.

Roedd Golwg wedi datgelu nol ym mis Ebrill bod awdurdodau’r Brifwyl yn y broses o ystyried llogi adeilad newydd, wrth i’r cytundeb ar gyfer y pafiliwn presennol ddod i ben.

Fe fydd cynrychiolwyr o bedwar cwmni gwahanol – gan gynnwys perchnogion y Pafiliwn Pinc, de Boer – yn ymweld â’r Maes yn ystod yr wythnos i weld drostyn nhw’u hunain beth yw’r gofyn.

Y disgwyl yw y bydd staff yr Eisteddfod yn gwneud argymhelliad i’r Bwrdd ac y gallai’r penderfyniad gael ei wneud mor gynnar â mis Tachwedd.

Diwedd cytundeb

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mae diwedd y cytundeb yn gyfle i edrych ar atebion gwahanol i’r Pafiliwn Pinc, sydd wedi bod yn rhan o’r Eisteddfod ers yr ŵyl yn  Abertawe yn 2006.

Un o’r posibiliadau yw cael gwell ansawdd sain a phafiliwn sydd heb bileri, er mwyn i bobol weld yn well o bob cornel.

Ond, meddai Elfed Roberts, dyw’r syniad o gael dau neu fwy o bafiliynau llai ddim yn debygol, gan y byddai hynny’n golygu dyblu costau i gwmnïau darlledu.

“Gan fod llawer o berfformwyr yn cystadlu er mwyn cael sylw ar y  teledu, mi fyddai hynny’n ei gwneud hi’n anodd i’r darlledwyr,” meddai. “Mi fydden ninnau wedyn yn saethu ein hunain yn ein troed.”

Cryfderau

Dau o gryfderau mawr y Pafiliwn Pinc, meddai Elfed Roberts, oedd ei fod yn tynnu cymaint o sylw a bod modd ei godi ar dir oedd heb fod yn hollol wastad.

Roedd ei liw trawiadol yn sicrhau fod pawb yn ei adnabod – gyda rhuthr i edrych ar luniau ohono ar y We pan oedd yn cael ei godi.

Y rheswm am ei bincrwydd oedd ei fod wedi cael ei etifeddu ar ôl ymgyrch canser y fron.