Roedd 15,023 o bobol wedi ymweld â Maes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ar ddydd Sadwrn cynta’r Brifwyl.
Mae’r ffigwr ychydig yn is na’r diwrnod cyfatebol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y llynedd, pan oedd 15,615 yn bresennol.
Diwrnod y bandiau pres, corau cymysg a dawns disgo, hip hop neu stryd oedd hi ddoe.
Canlyniadau dydd Sadwrn:
Bandiau Pres Dosbarth 4:
- Seindorf Arian yr Oakeley
- Band Ynyshir
- Band Porthaethwy
Bandiau Pres Dosbarth 3:
- Band Arian Tref Rhydaman
- Band Ynyshir
- Band Awyrlu Sain Tathan
Côr Cymysg dros 45 mewn nifer:
- Llanddarog a’r Cylch
- Y Gleision
- Godre’r Garth
Bandiau Pres Dosbarth 2:
- Band Ebbw Valley
- Seindorf Arian Deiniolen
- Band Pres Melingruffydd (Dinas Caerdydd)
Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai dan 12 oed:
- Freya Murray, Rhyl, Sir Ddinbych
- Jodie Garlick, Llannerch-y-Medd, Ynys Môn
- Molly Hughes, Aberystwyth, Ceredigion
Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr:
- Lowri a Jodie, Llanerch-y-Medd, Ynys Môn
- Charlie ac Oliver, Ponciau, Wrecsam
- Catrin a Leonie, Ponciau Wrecsam
Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd:
- Charlie Lyndsay, Ponciau Wrecsam
- Rosanna Talco, Aberystwyth, Ceredigion
- Oliver Swinger, Ponciau, Wrecsam