Roedd criw o tua 30 o bobol ifainc wedi taflu cerrig at ddiffoddwyr tân yng Nghwmbrân neithiwr.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn ymdrin â thân sbwriel bwriadol toc cyn 7 o’r gloch neithiwr pan ddigwyddodd yr ymosodiad arnyn nhw.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’r digwyddiad.