Fe all rhan o Gasnewydd gael ei ddynodi fel ardal benodedig ar gyfer puteiniaid, meddai Heddlu Gwent.

Mae disgwyl i’r cynllun gael ei brofi yn ardal Pilgwenlli’r ddinas a chredir mai dyma’r tro cyntaf i gynllun o’r fath gael ei brofi yng Nghymru.

Mae Heddlu Gwent wedi gweld cynlluniau tebyg ar waith yng ngogledd Lloegr ac yn gweld y cynllun fel ffordd i ddiogelu puteiniaid a rhoi mynediad iddyn nhw at asiantaethau all eu helpu.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent mai dyddiau cynnar iawn yw hi ar hyn o bryd ond cadarnhaodd eu bod yn edrych ar ba wersi, os o gwbl, sydd wedi cael eu hamlygu yn y cynllun ac y gellir eu defnyddio i’r materion ym Mhilgwenlli.

Meddai’r llefarydd: “Mae un o’r atebion hyn yn cynnwys lle penodedig i ffwrdd o ardaloedd preswyl y gall puteiniaid eu defnyddio.

“Mae’r cynllun wedi darganfod bod y fenter hon wedi galluogi’r heddlu ac asiantaethau lleol i ddarparu cyfleoedd i buteiniaid gael mynediad i wasanaethau gan gynnwys iechyd, lles a thai.”