Llun o Alun Lewis o glawr ei gyfrol Raider's Dawn
Mae nofel gan un o lenorion pwysica’r Ail Ryfel Byd o Gymru wedi cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf erioed.Fe gafodd Morlais ei sgrifennu gan Alun Lewis ar ddiwedd yr 1930au ond hyd nes nawr dydi hi ddim wedi gweld golau dydd.
Cafodd y nofel, sydd yn adrodd hanes mab ifanc i löwr yng nghymoedd tlawd y de diwydiannol ac yn adlewyrchu profiad personol yr awdur, ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos hon.
Mae’r gyfrol gan Seren wedi cael ei chyhoeddi gan mlynedd ers geni Alun Lewis ac, yn ogystal â’r nofel, fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn arddangos casgliad o waith yr awdur.
Cerddi
Cafodd Alun Lewis ei eni ai’ fagu yng Nghwmaman ger Aberdâr cyn ennill ysgoloriaethau i astudio yn Ysgol Ramadeg Y Bont-faen, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Manceinion, ac yna gweithio fel newyddiadurwr ac athro.
Ymunodd â’r fyddin ym 1940 a gwasanaethu fel is-lefftenant, er gwaethaf ei dueddiadau heddychol, ac fe fu farw ym 1944 yn Burma mewn digwyddiad gyda’i ddryll ei hun – y gred gyffredinol oedd iddo ladd ei hun.
Roedd yn adnabyddus am ei gerddi ac fe gafodd yr unig gasgliad o’i farddoniaeth a gyhoeddwyd yn ystod ei fywyd, Raiders’ Dawn (1942), ei ail-argraffu chwech o weithiau.
Cyhoeddwyd ail gyfrol, Ha! Ha! Among the Trumpets, ym 1945 gyda rhagair gan Robert Graves, ac mae sawl casgliad o farddoniaeth, llythyrau a straeon wedi’u cyhoeddi ers hynny. Mae’n cael ei ystyried yn un o feirdd mawr ‘coll’ Cymru.
Cydnabyddiaeth
Yn 1998 fe gafodd casgliad o lawysgrifau a phapurau Alun Lewis eu cyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol gan ei weddw, Gweno M Lewis.
Ac yn ôl bywgraffydd y llenor, Dr John Pikoulis, mae’n bwysig bod nofel y llenor sydd wedi aros yn y cysgodion cyhyd nawr yn cael sylw.
“Mae Lewis ymhlith beirdd a llenorion Saesneg mwyaf blaenllaw’r Ail Ryfel Byd ac roedd ei gerddi a’i straeon teimladwy a phwerus yn boblogaidd gyda darllenwyr a beirniaid llenyddol,” meddai Dr John Pikoulis.
“Mae Morlais, a ysgrifennwyd gan Lewis pan oedd yn ei ugeiniau, yn arwydd cynnar o’i ddoniau llenyddol, ac rwy wrth fy modd, ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, y bydd cynulleidfaoedd newydd yn cael cyfle i fwynhau’r gwaith disglair hwn.”
Ychwanegodd Nia Mai Daniel, Pennaeth Isadran Archifau a Llawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol: “Rwy’n falch iawn fod gwaith Alun Lewis yn cael sylw yn ystod y canmlwyddiant ac yn croesawu darllenwyr i ddod i weld ei bapurau ef – ac archifau llenorion mawr eraill Cymru – yn y Llyfrgell Genedlaethol.”