Edwina Hart
Fe fydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y bont newydd gwerth £24.5 miliwn dros yr Afon Dyfi ar y A487 cyn diwedd y flwyddyn nesaf os fydd yr holl brosesau statudol wedi’u cwblhau, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart.
Cafodd y cytundeb ar gyfer y prosiect ei wobrwyo i Alun Griffiths Contractors Cyf fis diwethaf.
Bydd arolygon amgylcheddol a pheirianyddol yn dechrau cyn bo hir, ac ym mis Hydref, cynhelir arddangosfa gyhoeddus yn rhoi amlinelliad o’r cynlluniau ac i egluro’r amserlen.
‘Llwybr strategol’
Croesawodd Edwina Hart y datblygiad hwn: “Dwi’n falch o weld y datblygiadau ar y prosiect pwysig hwn, fydd yn gwella diogelwch, amser teithio a chadernid y rhwydwaith ar yr A487, sy’n llwybr strategol o’r gogledd i’r de ar hyd arfordir gorllewinol Cymru.”
Bydd y cynllun arfaethedig yn cynnwys traphont newydd a fydd yn croesi’r Afon Dyfi yn uwch i fyny’r afon na’r bont bresennol ger Machynlleth, sy’n cau yn rheolaidd oherwydd llifogydd neu ddifrod gan gerbydau.
‘Diogelu treftadaeth y bont’
Croesawodd Aelod Cynulliad William Powell y cyhoeddiad fod y gwaith am ddechrau: “Bydd y bont newydd, nid yn unig yn helpu i ysgafnhau’r traffig ond fe fydd yn diogelu treftadaeth y bont bresennol.”
Dywedodd yr ymgyrchydd lleol, Jane Dodds, “Yr ydym wrth ein boddau gyda datblygiad y bont newydd gwerth £25.6 miliwn.”
Ychwanegodd: “Mae’r llifogydd parhaus yn creu problem i’r bobl leol, a bydd y bont newydd yn help i oresgyn y problemau hyn.”