Castell Aberteifi
Mae  yna ddicter o hyd ar strydoedd Aberteifi ar drothwy’r cyngerdd mawr cynta’ yng Nghastell Aberteifi ar ei newydd wedd.

Ymhlith y cwynion, mae diffyg cyfathrebu rhwng Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan a’r trigolion, y ffaith bod y Cyfarwyddwr Cris Tomos wedi gorfod ymadael â’i swydd yn ddirybudd ac nad yw’r Ymddiriedolaeth wedi rhoi digon o sylw i hanes diwylliannol Cymraeg y castell.

Fe ddechreuodd y cyfan gydag ymateb chwyrn gan rai i’r ffaith mai grŵp gwerin o Loegr, Bellowhead, a fydd yn cloi’r cyngerdd mawr cynta’ nos Wener – yn y castell lle cafodd yr Eisteddfod gynta’i chynnal.

Nawr mae deiseb ar-lein yn galw am adfer Cris Tomos i’w swydd ac yn holi a yw’r bwrdd presennol yn gymwys i reoli’r Castell.

‘Ofn dweud dim’

Mae Dr Richard Crawford a dwy o’r gwirfoddolwyr gwreiddiol eraill, Jane Jones a Kathleen Martin, wedi bod yn llythyru â’r wasg yn cwyno am ddiffyg hyrwyddo’r dreftadaeth Gymreig.

“Fel gwirfoddolwyr, ry’n ni wedi bod yn rhwystredig drwy gydol y broses gyda’n hymdrechion i gael yr Ymddiriedolwyr i eistedd lawr gyda ni a mynd dros ein hamheuon a’n hanfodlonrwydd,” meddai.

“Drwy gydol yr holl broject, nid oes dim cyfathrebu, waeth dweud, wedi bod rhwng yr Ymddiriedolwyr a phobol Aberteifi.

“Yn syml, r’yn ni nawr wedi cyrraedd cyfnod lle’r hoffen ni i gyrff cyfrifol ymchwilio i’r modd y mae’r Ymddiriedolaeth wedi llywodraethu ei hun.”

Mae Lynn Gordon yn cytuno. “Mae pobol eisiau ymchwiliad cyhoeddus achos does neb yn gwybod beth sy’n digwydd,” meddai hi. “Mae pawb yn cau eu cegau ac mae ofn ar bawb dweud dim… Mae pawb fel taen nhw’n meddwl ei fod yn draed moch ac eisiau gwybod beth yn union sydd wedi bod yn digwydd.”

‘Anghydweld’

Mae Golwg yn deall bod y Cyfarwyddwr, Cris Tomos, wedi gadael ei swydd oherwydd bod yna ‘anghydweld’ mewnol.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Cadwgan: “Gallwn gadarnhau bod Cris Tomos, cyn-gyfarwyddwr y prosiect, wedi gadael yr Ymddiriedolaeth drwy gytundeb ar y cyd… ac felly nid oes gennym unrhyw sylwadau i’w gwneud ynglŷn â’r ddeiseb.

“Mae treftadaeth a’r iaith Gymraeg wrth wraidd hunaniaeth Castell Aberteifi ac mae ein cynlluniau i ddenu ymwelwyr yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwnnw.

Gellir darllen rhagor am y stori yma yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.

Stori: Non Tudur