Prif Weithredwr S4C, Ian Jones
Fe fydd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, yn annerch digwyddiad yn Sioe Llanelwedd heddiw, lle bydd cyfle i glywed mwy am y cynlluniau arfaethedig  i greu Canolfan S4C Yr Egin a fydd yn agor yng Nghaerfyrddin yn 2018.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu cynnig gan y Ganolfan i “greu dyfodol newydd i’r iaith Gymraeg ac i’r economi drwy Gymru gyfan.”

Bydd yn cynnwys diweddariad ar y project gan Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn dilyn croeso gan Ian Jones.

Wythnos diwethaf roedd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod S4C yn galw am sicrwydd y bydd y cwmni yn parhau a’i gynlluniau i symud ei bencadlys o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Cafodd pryderon eu mynegi am gyllid y sianel yn y Cyngor yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 mlwydd oed o 2018 ymlaen.

Cyn y digwyddiad dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:  “Mae’r cynlluniau i adleoli Pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn 2018 yn rhan o uchelgais sydd gyda ni i wneud popeth gallwn ni i hybu’r Gymraeg, i hybu’r economi ac wrth gwrs i barhau i wella’r gwasanaethau mae S4C yn eu cynnig i’n cynulleidfa.

“Gyda’r holl ffocws ar ddyfodol ariannol y sianel a thrafodaethau gwleidyddol, mae’n bwysig cofio’r cynlluniau cyffrous sydd gyda ni ar y gweill a’r buddiannau economaidd ac ieithyddol a ddaw yn eu sgil.”

‘Cymuned ddiwylliannol’

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn cael ei gweld fel cartref nid yn unig i S4C ond “i gymuned ddiwylliannol fyrlymus, yn gyfnewidfa amlddisgyblaethol, entrepreneuraidd a chreadigol a fydd wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru.

Fe fydd yn gartref i dros 25 o gwmnïau a sefydliadau cysylltiedig, ac yn ganolfan “lle gall pobl, cysylltiadau, syniadau a doniau sbarduno’i gilydd.”

‘Datblygiad cyffrous’

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, y bydd y Ganolfan arfaethedig yn  fuddiol i’r iaith Gymraeg:  “Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad cyffrous, beiddgar a thrawsnewidiol a fydd yn sicr yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg a’r economi yn lleol o fewn Sir Gâr; o fewn ardal ehangach Dinas Rhanbarth Bae Abertawe a thrwy Gymru gyfan.

“Wrth ddod ag ystod o ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol at ei gilydd yn yr un adeilad, bydd cyfle i gydleoli ystod o sgiliau a doniau i gyfnewid gwybodaeth, arloesi a chreu cyflogaeth gyda’r iaith Gymraeg yn ganolog ac yn greiddiol i’r datblygiad,” meddai.

Uchelgais

Bydd Canolfan S4C Yr Egin yn hybu’r economi a’r Iaith Gymraeg, yn ôl Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:  “Mae’r cynlluniau i adleoli Pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn 2018 yn rhan o uchelgais sydd gyda ni i wneud popeth gallwn ni i hybu’r Gymraeg, i hybu’r economi ac wrth gwrs i barhau i wella’r gwasanaethau mae S4C yn eu cynnig i’n cynulleidfa.

“Gyda’r holl ffocws ar ddyfodol ariannol y sianel a thrafodaethau gwleidyddol, mae’n bwysig cofio’r cynlluniau cyffrous sydd gyda ni ar y gweill a’r buddiannau economaidd ac ieithyddol a ddaw yn eu sgil.”

‘Hwb i’r rhanbarth’

Croesawodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y datblygiad fel hwb i’r rhanbarth,  “Rydym yn hyderus y bydd codi adeilad newydd pwrpasol ac eiconig yn y dref yn sbardun ar gyfer hyrwyddo datblygu economaidd ar draws y rhanbarth a’r wlad. Bydd tua 150 o swyddi’n cael eu creu yn sgil y cynlluniau, a byddai o gymorth mawr iawn i’r economi leol. Bydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i’r iaith Gymraeg, gan ddarparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg gael swyddi o safon.”

Cynhelir y digwyddiad yn Adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru am 3pm heddiw.