Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu ar ôl i un o’i uwch-weision sifil dderbyn tâl diswyddo o fwy na £230,000.
Roedd gwas sifil dienw wedi derbyn tâl diswyddo o £232,050 y llynedd – y ffigwr uchaf yn y blynyddoedd diwethaf a’r unig ffigwr dros £200,000.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn “anhapus” ynglŷn â’r tal diswyddo am ei fod eisoes wedi galw am ddatganoli telerau uwch-weision sifil er mwyn osgoi taliadau diswyddo gormodol.
Meddai Llefarydd ar ran y Llywodraeth Cymru: “Er mwyn osgoi gwneud y math yma o daliadau roedd Carwyn Jones eisiau datganoli cytundebau a thaliadau uwch-weision sifil.
“Mae’n deg dweud bod Carwyn Jones yn anhapus neu’n rhwystredig gyda’r sefyllfa.
“Y math yma o daliad roedd yn gobeithio ei osgoi.”
Testun pryder
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies bod gan Lywodraeth Cymru agwedd “laissez faire” tuag at arian cyhoeddus.
Meddai: “Er ein bod yn cefnogi ymdrechion i leihau’r gost o ddarparu llywodraeth yng Nghymru, mae’r symiau dan sylw yn destun pryder gwirioneddol.
“Bydd y cyhoedd yn ei chael yn anodd deall sut mae un aelod o staff yn cael ei dalu mwy na £230,000 i adael ei swydd.”