Mae teyrngedau wedi’u rhoi i bensiynwraig a fu farw mewn damwain ym mhentre’ Tal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, ddoe.

Roedd Dorothy Jones, 75 oed, yn cerdded ar ymyl Ffordd Nantlle pan ddigwyddodd y ddamwain rhyngddi hi a lori toc wedi 4 o’r gloch y prynhawn.

Heddiw, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau teyrnged iddi, gan ei merched, Tracey a Caroline:

“Roedd hi’n fam arbennig, ac yn nain arbennig i Ryan a Holly,” meddai’r merched. “Ar hyn o bryd, rydan ni’n methu credu be’ sydd wedi digwydd.

“Pe bai rhywun yn gofyn i ni ddisgrifio mam, y geiriau ‘enaid rhydd’ fasa’n dod i’r meddwl,” meddai’r chwiroydd wedyn. “Roedd hi’n ddynas hael iawn, efo calon fawr.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un a welodd y ddamwain, i gysylltu ar Uned Plismona’r Ffyrdd yn Llandygai ar y rhif 101.