Mae crysau pêl-droed Cymru bron iawn â gwerthu allan yn dilyn canlyniadau da y tim cenedlaethol yn ddiweddar.

Bu raid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r cyflenwyr, JD Sports, ymddiheuro i gefnogwyr gan ddweud bydd crysau newydd ar gael mewn ychydig wythnosau.

Roedd y crysau cartref wedi gwerthu allan ar y we ac mae nifer stoc yn siopau yn brin iawn.

Bellach mae Cymru yn 10fed yn rhestr FIFA, ac mae’r tîm ar y trywydd i gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc – y bencampwriaeth gynta’ i’r tim fod yn rhan ohoni er 1958.

Dywedodd JD Sports a’r Gymdeithas eu bod heb wynebu’r fath alw am y crysau o’r blaen. Yn awr byddent yn adolygu niferoedd stoc, ac yn archebu mwy er mwyn ateb y galw yn y dyfodol

Mae gan JD Sports gytundeb unigryw gyda’r Gymdeithas, sy’n golygu bod crysau Cymru ar gael mewn siopau JD ac ar wefan y cwmni yn unig.