Mae ymgynghoriad gan y Cynulliad yn dangos fod mwy na hanner pobol ifanc Cymru am weld gostwng yr oed pleidleisio i 16.
Cafodd yr ymgynghoriad #Pleidleisio16Cymru ei lansio ym mis Tachwedd gan Lywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC, ac roedd mwy na 10,000 o ymatebion gan bobol ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Hwn oedd yr ymateb mwyaf erioed gan unrhyw ymgynghoriad gan y Cynulliad.
Dywedodd 53% yr hoffen nhw pe bai’r oed yn cael ei ostwng, gyda dim ond 29% yn dweud Na.
Nododd 51% y bydden nhw’n mynd i orsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais, tra bod 79% yn gweld pwysigrwydd cael addysg am wleidyddiaeth a’r system bleidleisio.
Dywedodd 64% y bydden nhw’n hoffi dysgu mwy am y system wleidyddol, tra dywedodd 58% y bydden nhw’n pleidleisio yfory pe bai modd gwneud hynny.
‘Cipolwg pwysig’
Wrth ymateb i ganlyniadau’r ymgynghoriad, dywedodd y Fonesig Rosemary Butler: “Dyma’r ymateb mwyaf erioed inni gael i ymgynghoriad gan y Cynulliad, sy’n brawf ei fod yn ddadansoddiad teg o farn pobl ifanc ar y mater hwn.
“Mae’r adroddiad hwn yn gyfraniad unigryw i’r ddadl ynghylch gostwng yr oed pleidleisio.
“Er bod gwleidyddion yn San Steffan ac yma yn y Senedd wedi bod yn trafod y mater hwn yn fanwl, mae hyn yn rhoi cipolwg pwysig inni o farn y bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y newid posibl yn y gyfraith.
“Ar yr adeg pan fo Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwblhau Bil Cymru drafft newydd i gynnwys datganoli trefniadau etholiadol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, mae maint y sampl a barn y bobl ifanc fel yr amlygwyd yn yr adroddiad yn rhoi mandad clir i Aelodau’r Cynulliad mai dyma ewyllys pobl ifanc Cymru.”
Addysgu
Mae adroddiad a gafodd ei lunio yn sgil yr ymgynghoriad, ‘Cynhadledd Llais dy Gynulliad’ yn cael ei lansio yn y Senedd heddiw.
Dywedodd Dan Boughton o Gaerdydd, sy’n 21 oed: “Rwy’n erbyn gostwng yr oed pleidleisio i 16. Sut gall pobl ifanc ddeall sut i bleidleisio os nad ydynt wedi cael eu haddysgu yn y lle cyntaf?”
Dywedodd Finley Morris o Gaerdydd, sy’n 18 oed: “Yn bersonol, rwy’n credu y dylai pobl ifanc sy’n 16 oed allu pleidleisio. Fodd bynnag, ni ddylent gael yr hawl hyd nes bod addysg wleidyddol yn rhan orfodol o’r cwricwlwm.”
‘Camau gweithredu’
Yn ystod y gynhadledd, bydd y Llywydd yn ymrwymo i gyfres o gamau gweithredu mewn ymateb i farn pobl ifanc Cymru.
Bydd y Fonesig Rosemary yn gwneud y canlynol:
- Defnyddio canlyniadau’r arolwg i roi gwybod i arweinwyr y pleidiau / yr Ysgrifennydd Gwladol cyn etholiad Mai 2016 a chyflwyno Bil Cymru
- Defnyddio’r canlyniadau i lywio trafodaethau gyda’r Comisiwn Etholiadol ynghylch:
- codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r broses etholiadol ac addysg wleidyddol yn fwy cyffredinol
- trefniadau etholiadol yn y dyfodol fel y maent wedi’u drafftio yn narpariaethau perthnasol Bil Cymru
- Defnyddio canlyniadau’r arolwg i hysbysu’r Gweinidog Addysg bod pobl ifanc wedi galw am fwy / gwell addysg wleidyddol o ganlyniad i’r ymgynghoriad er mwyn bwydo i mewn i unrhyw newidiadau i’r cwricwlwm yn y dyfodol
- Defnyddio canlyniadau’r arolwg i wella ein darpariaeth addysg ac allgymorth ein hunain ymhellach a thrafod cyfleoedd newydd i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, er enghraifft, y Comisiynydd Plant a chyrff anllywodraethol eraill ar weithgareddau newydd
‘Trawsnewid gwleidyddiaeth’
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Dr Owain ap Gareth, Swyddog Ymchwil ERS Cymru: “Hwn yw’r arolwg mwyaf cynhwysfawr fu ymhlith pobol ifanc yng Nghymru, felly mae’n galonogol fod mwyafrif clir o blaid pleidleisiau i bobol 16 ac 17 oed.
“Rydym yn galw ar yr holl bleidiau bellach i wrando ar bobol ifanc ac ymrwymo i’r bleidlais ar gyfer pobol 16 oed yn yr etholiadau yng Nghymru – ar lefel leol a chenedlaethol.
“Roedd rhoi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban yn llwyddiant ysgubol, ac mae ERS Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o’r llwyddiant hwn.”
“O’i wneud yn iawn,” meddai, “fe allai hyn drawsnewid gwleidyddiaeth i genhedlaeth o bobol ifanc yng Nghymru.”