Fe fu cynnydd yn nifer y di-waith yn y DU am y tro cyntaf ers dwy flynedd, yn ôl ffigurau swyddogol.

Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith yn y DU wedi cynyddu 15,000 i 1.85 miliwn yn y tri mis hyd at fis Mai, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yng Nghymru fe fu cynnydd o 8,000 yn nifer y di-waith yn ystod y chwarter olaf sy’n golygu bod 100,000, neu 6.6% o’r boblogaeth yn ddiwaith.

Dyma’r cynnydd chwarterol cyntaf yn y DU ers y tri mis hyd at fis Mawrth 2013.

Ond mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod cyflogau’n parhau i gynyddu gyda chyflogau wythnosol ar gyfartaledd 3.2% yn uwch yn y tri mis hyd at fis Mai.

Dyma’r cynnydd mwyaf ers mis Ebrill 2010 a gyda chwyddiant oddeutu 0% mae’n golygu bod cyflogau mewn termau real yn gwella ar y raddfa gyflymaf ers bron i wyth mlynedd.

Roedd 30.98 miliwn o bobl mewn gwaith yn ystod y chwarter diweddaraf – 67,000 yn llai na’r cyfnod blaenorol. Dyma’r gostyngiad chwarterol cyntaf ers mis Ebrill 2013.

Tra bod nifer y bobl sy’n gweithio rhan amser wedi gostwng 97,000 mae nifer y rhai sydd mewn swyddi llawn amser wedi cynyddu o 30,000, yn ôl y ffigurau.

Roedd nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal di-waith wedi cynyddu 7,000 ym mis Mehefin i 804,200 – y cynnydd misol cyntaf ers mis Hydref 2012.

Mae ’na ddyfalu mai’r rheswm am y cynnydd yn nifer y di-waith yw’r ffaith bod y ffigurau yn cynnwys y cyfnod yn arwain at yr etholiad cyffredinol pan fu  ansicrwydd ymhlith busnesau.

Gall hefyd fod yn gysylltiedig â thwf economaidd gwaeth na’r disgwyl ar ddechrau 2015.

‘Cymru’n perfformio’n well na gweddill y DU’

Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf heddiw dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:

“Mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod cyflogaeth yn cynyddu’n gynt yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi perfformio’n well na phob rhan arall o’r DU i gofnodi’r cynnydd mwyaf yng ngraddfa cyflogaeth.

Yn ystod y chwarter diweddaraf rydym wedi gweld 19,000 yn rhagor o bobl mewn swyddi yng Nghymru, o’i gymau a gostyngiad mewn cyflogaeth yng ngweddill y DU yn ystod yr un cyfnod.

“Mae’r canlyniadau yma’n arwydd clir bod ein polisïau’n llwyddo. Fel Llywodraeth sydd yn ceisio hybu busnesau, rydym yn gweithio’n agos gyda chwmnïau i greu twf a chyfloed swyddi i bobl ar draws Cymru.”

‘Llusgo tu ôl i weddill y DU’

Ond dywedodd llefarydd economi’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod y ffigurau’n tanlinellu pa mor fregus yw’r economi o hyd.

Dywedodd  Eluned Parrott AC: “Unwaith eto mae Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU. Mae gan y Llywodraeth Lafur gwestiynau difrifol i’w hateb ynglŷn â pham mae’n ffigurau diweithdra yn parhau i effeithio ar gyfanswm gweddill y DU.

“Mae Llafur wedi bod mewn grym ers 16 blynedd erbyn hyn ac ni ddylai hyn fod yn digwydd.

“Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael a’r problemau sylfaenol yn ein heconomi. Mae’n rhaid i ni geisio darganfod pam fod nifer y di-waith yn cynyddu’n gyflymach yma na dros y ffin.

“Mae ein hadferiad economaidd yn parhau’n fregus.  Yn anffodus fe fydd Cyllideb y Llywodraeth Geidwadol, a fydd yn effeithio pobl ifanc yn bennaf, yn gwanhau ein heconomi ymhellach.”