Trudy Jones
Daeth cannoedd o bobl i angladd dynes o Gymru a gafodd ei saethu’n farw yn Tiwnisia fis diwethaf.

Roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent ymhlith 38 o bobl a gafodd eu saethu’n farw gan ddyn arfog ar draeth yn Sousse ar 26 Mehefin.

Roedd 30 o’r rhai gafodd eu lladd yn dod o Brydain.

Roedd Trudy Jones, a oedd yn gweithio mewn cartref gofal, ar wyliau gyda’i ffrindiau yn Tiwnisia pan gafodd ei lladd.

Cafodd angladd y fam i bedwar o blant ei gynnal yn Eglwys Dewi Sant yn y Coed Duon heddiw.

Roedd mwy na 200 o’i theulu a ffrindiau yn yr eglwys a thua 50 o bobl eraill yn sefyll y tu allan ar gyfer y gwasanaeth.

Mae ei theulu wedi dweud eu bod nhw wedi torri eu calonnau ers iddi gael ei lladd yn Sousse a’u bod yn dal mewn sioc.

Roedd archwiliad post mortem yn dangos ei bod wedi cael ei saethu unwaith gan y dyn arfog Seifeddine Rezgui wrth iddo dargedu twristiaid ar draeth yn Sousse. Cafodd ei chorff ei chludo yn ôl i’r DU mewn awyren y Llu Awyr.

Dros y penwythnos bu ei nith Stacey Birchard yn siarad â’r South Wales Argus.

Dywedodd: “Mae teulu Trudy – gan gynnwys ei mam 84 oed – wedi torri eu calonnau ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd.

“Maen nhw’n dal i geisio dod i delerau gyda’r ffaith na fydd Trudy fyth yn dychwelyd o’i gwyliau oherwydd gweithredoedd un dyn, nad oedd ots ganddo am y niwed y byddai’n achosi.”