Richard Williams
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Rover ger Bae Caerdydd ar 8 Gorffennaf.
Mae teulu Richard Williams, 24, o Bont-y-pŵl wedi rhoi teyrnged iddo.
Mewn datganiad dywedodd y teulu: “Roedd Richard yn fab , ŵyr a nai cariadus, roedd ei holl deulu yn ei garu.”
Roedd Richard Williams yn cael ei alw’n “Dickie” gan ei deulu a ffrindiau a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog cyn ennill gradd mewn peirianneg fecanyddol ym Mhrifysgol Casnewydd.
Roedd yn gweithio i gwmni peirianneg Fitzgerald, yng Nghwmbrân, ac roedd yn gitarydd medrus ac yn aelod o fand.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1500246497.