Hofrennydd Gwylwyr y Glannau ar draeth Tywyn Llun: Tudalen Facebook Love Tywyn
Mae dyn 74 oed wedi marw ar ôl iddo geisio achub dwy ferch aeth i drafferthion tra’n nofio yn y môr yn Nhywyn, Gwynedd brynhawn ddoe.

Roedd y dyn yn helpu dyn arall i geisio achub y ddwy ferch, sydd yn eu harddegau, pan aeth yntau i drafferthion tua 4.16 brynhawn dydd Sadwrn.

Cafodd ei achub o’r dŵr gan fad achub o Aberdyfi a’i gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd y dyn arall a’r ddwy ferch eu hachub o’r môr yn ddiogel ac aed a’r ddwy i’r ysbyty fel rhagofal.

Mewn digwyddiad arall bnawn ddoe cafodd dau nofiwr, llanc 16 oed a merch 14 oed, eu hachub ar ol mynd i drafferthion yn y dŵr ger Castell Harlech. Fe gawson nhw eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wrth nofio yn y môr.

Teyrngedau

Cafodd teyrngedau eu rhoi ar dudalen Facebook Love Tywyn neithiwr gan deulu’r dyn.

Dywedodd Gareth Guest: “Yn anffodus roedd fy nhad wedi boddi ar ôl iddo geisio achub dwy ferch oedd mewn trafferthion. Mae pawb wedi bod yn glen iawn. Dyna’r math o berson oedd o. Fe fyddaf yn gweld ei eisiau’n fawr iawn, ynghyd a gweddill fy nheulu.”

Ychwanegodd Ceri Donovan: “Rydym wedi tristau’n ofnadwy am yr hyn sydd wedi digwydd i fy nhad. Diolch am y geiriau caredig.”

Dywedodd rheolwr y bad achub Dave Williams: “Fe gawson ni ein galw am 3.47yp ynglŷn ag adroddiadau bod dau berson ifanc wedi cael eu sgubo allan i’r môr. Cawson nhw eu dal mewn crychdonnau a oedd wedi eu llusgo allan i’r môr ac fe aethon nhw i drafferthion.

“Pan wnaethon ni gyrraedd wnaethon ni ddarganfod dyn yn y dwr. Fe wnaethon ni CPR a phan gyrhaeddodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau cafodd ei gludo i’r ysbyty.

“Roedd aelod o’r cyhoedd yn digwydd bod yno’n syrffio ac fe lwyddodd i helpu rhai o’r bobl yn ôl i’r lan. Roedden nhw tua 30 i 40 metr i ffwrdd o’r lan.”