Fe fydd Tywysog Cymru’n ymweld â’r Swalec SSE wrth i Loegr ac Awstralia baratoi ar gyfer y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw sy’n dechrau ddydd Mercher nesaf.
Mae’r ymweliad yn rhan o daith flynyddol y Tywysog a Duges Cernyw â Chymru, pan fyddan nhw’n treulio wythnos yn Llwynywermod ger Llanymddyfri.
Trwy gyd-ddigwyddiad, daw’r ymweliad 28 o flynyddoedd – bron i’r diwrnod – ar ôl i’r Tywysog ymweld â Chlwb Criced Morgannwg wrth iddyn nhw lansio dechrau eu canmlwyddiant.
Bydd y Tywysog – noddwr anrhydeddus Clwb Criced Morgannwg – yn cwrdd â chwaraewyr y ddau dîm wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr ornest.
Bydd e hefyd yn cwrdd â phobol ifanc sy’n cymryd rhan yn rhaglen lletygarwch Ymddiriedoliaeth y Tywysog.
Ymweliadau eraill
Bydd y pâr hefyd yn ymweld ag Eisteddfod Llangollen yn ystod eu hymweliad.
Ymhlith y lleoliadau eraill fydd y ddau yn ymweld â nhw mae Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hynny i weld carcharorion sy’n cymryd rhan mewn rhaglen bêl-droed arbennig i droseddwyr.
Wrth deithio i’r canolbarth, fe fydd y Tywysog yn ymweld â nifer o brosiectau sy’n rhan o Fenter Mynyddoedd Cambria, sy’n helpu ffermwyr yr ardal.
Byddan nhw’n agor academi pobi mewn becws yn Wrecsam ac yn ymweld â nifer o fusnesau dillad, bwyd ac aerofod.
Bydd Duges Cernyw hefyd yn agor gwinllan yn Nhrefynwy yn ystod yr wythnos.
Ymhlith y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn Llwynywermod yr wythnos hon mae cyngerdd wedi’i threfnu gan y Coleg Cerdd a Drama.
Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House: “Mae’r Tywysog a’r Dduges bob amser yn mwynhau eu hymweliad haf flynyddol â Chymru.
“Maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ymgysylltu â chymunedau ym mhob cwr o’r wlad, ac i weld amrywiaeth eang mentergarwch yng Nghymru.”