Mils Muliaina
Mae un o gyn-chwaraewyr rygbi Seland Newydd wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes 19 oed yng Nghaerdydd tra ar noson allan yn dilyn gornest rygbi.

Y disgwyl yw y bydd Mils Muliaina yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ar Awst y seithfed.

Cyn ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol yn 2011 fe chwaraeodd y Kiwi 100 o weithiau i’w wlad.

Ers hynny mae wedi bod yn chwarae i ranbarth Connacht yn Iwerddon.

Y tymor nesaf bydd cyn-gapten 34 oed Seland Newydd yn symud i’r Eidal i chwarae i glwb Zebre.

Yn ôl y New Zeland Herald mae Muliaina yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le ac mae’n bwriadu pledio’n ddieuog.