Gwefan y Drenewydd yn dathlu
Mae’r Drenewydd wedi ennill gêm Ewropeaidd am y tro cyntaf yn eu hanes, wrth i glybiau Cymru ddechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair Ewropa neithiwr.

Llwyddodd y tîm o’r canolbarth i ennill 2-1 yn erbyn Valletta o Malta ar Barc Latham neithiwr gyda gôl yn y munud olaf, a hynny o flaen torf lawn o bron i 1,500 o gefnogwyr.

Ond chafodd Airbus ddim cystal lwc yng nghymal cyntaf eu gêm nhw, wrth iddyn nhw golli 3-1 gartref i NK Lokomotiva Zagreb o Croatia.

Colli o 3-1 oedd hanes Y Bala hefyd i ffwrdd yn erbyn Differdange o Lwcsembwrg, gyda Mike Hayes yn gweld y cerdyn coch tua diwedd y gêm.

Yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fercher llwyddodd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, i sicrhau buddugoliaeth hwyr yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd Ffaro.

Dathlu yn y Drenewydd

Hon oedd gêm gyntaf y Drenewydd yn Ewrop ers 1998, ac fe ddaeth hi’n un i’w chofio i’w cefnogwyr gyda buddugoliaeth ddramatig hwyr.

Y tîm cartref oedd yn edrych gryfaf, ac fe aethon nhw ar y blaen pum munud cyn yr egwyl wrth i Luke Boundford benio’r bêl i’r rhwyd o gic rydd.

Fe fethodd y Drenewydd sawl cyfle yn yr ail hanner ac fe gawsant eu cosbi pan rwydodd yr eilydd Jhonnattann i Valetta ar ôl 73 munud.

Nid dyna oedd ei diwedd hi, gyda chapten Valletta Ian Azzopardi un gweld cerdyn coch bum munud o’r diwedd cyn i Jason Oswell daro’r gôl fuddugol wrth i’r cloc gyrraedd y 90.

Mae’n golygu bod gan y Drenewydd siawns dda o gyrraedd y rownd nesaf pan fydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd yr ail gymal ym Malta ymhen wythnos.

Siom i Airbus

Cafodd Airbus ddechrau da i’w cymal cyntaf nhw yn erbyn NK Lokomotiva yn rownd gyntaf y gystadleuaeth Ewropeaidd.

Roedden nhw ar y blaen ar yr egwyl ar ôl i Wayne Riley rwydo wedi 27 munud o chwarae yn stadiwm Nantporth ym Mangor.

Ond fe sgoriodd yr ymwelwyr o Croatia dri munud i mewn i’r ail hanner, wrth i Damir Sovsic ganfod y rhwyd, cyn i Mirko Maric a Marko Kolar ychwanegu dwy arall i NK.

Roedd Airbus yn lwcus i beidio â bod ymhellach ar ei hôl hi erbyn y diwedd, wrth i’w golwr nhw James Coates arbed cic o’r smotyn, ond mae tasg anodd yn eu hwynebu yn yr ail gymal.