Mae chwech o brosiectau Cymreig wedi cael eu dewis i fod ar restr fer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol ar BBC One eleni.
Dyma’r deuddegfed flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal ac fe roedd 620 o brosiectau wedi ymgeisio am le at y rhestr fer.
Bydd enillwyr pob un o’r saith categori yn derbyn gwobr o £2,000 ac yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni fydd yn cael ei darlledu ar BBC One ym mis Medi dan arweiniad yr actor penigamp John Barrowman.
Y chwe phrosiect yw:
- Y Tŵr Gwylio 360 ym Machynlleth – safle i bobol gael golwg ar fywyd gwyllt – yn arbennig y gweilch prin sy’n nythu gerllaw.
- Changing Minds – gweithdai a rhaglenni mentora i blant a phobol ifanc sydd wedi cael eu bwlio neu sy’n cael eu bwlio ar hyn o bryd.
- Joined-Up Linking yn Llanelli – gwasanaeth wedi’i deilwra ar gyfer cyn aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
- Fferm Kerry ger y Drenewydd – gwyliau wedi eu cynnal a hyfforddiant i helpu teuluoedd anabl i ddatblygu ffyrdd i ymdopi’n well.
- Newbridge Memo – lleoliad i gerddoriaeth a man cyfarfod bellach gyda llyfrgell newydd a gweithgareddau treftadaeth ar gyfer y gymuned leol.
- Tîm Cadair Olwyn North Wales Crusaders yn Sir y Fflint – yr unig ganolfan sy’n cynnig hyfforddiant rygbi cadair olwyn yng Nghymru ac mae’n galluogi pobl nad ydyn nhw yn anabl a phobl anabl o Gymru a Lloegr i chwarae rygbi’r gynghrair.
‘Syfrdan’
Meddai John Barrowman: “Mae’r gwaith cwbl anhunanol sy’n cael ei wneud gan y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn fater sy’n fy syfrdanu bob amser. Mae eu gwaith yn haeddu cael ei ddathlu’n genedlaethol; yr ysbryd cymunedol, y cydlyniant cymdeithasol a’r cydymdeimlad.”
Bydd y prosiectau yn cystadlu am bleidleisiau ar draws saith categori – celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, iechyd, yr amgylchedd, addysg a gwirfoddol/elusennol.