Y Frenhines
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli eiddo’r Goron yng Nghymru a chadw’r incwm ohono.
Byddai hyn yn dilyn esiampl yr Alban yn dilyn adroddiadau heddiw eu bod nhw’n ystyried torri mwy na £1 miliwn o’u cyfraniad at y Frenhiniaeth os bydd y pwerau tros Ystad y Goron yn cael eu datganoli yno.
“Mae gan ein cenedl gyfoeth o adnoddau naturiol a dylen ni eu defnyddio nhw mewn modd cynaliadwy a fydd yn elwa pobol Cymru – nid coffrau’r Trysorlys Prydeinig,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon.
Yn ystod 2014-2015, roedd safleoedd Ystâd y Goron Cymru wedi cynhyrchu £11.1 miliwn o incwm – cynnydd o 14.4% ers y flwyddyn cynt.
Gwerth yr Ystâd yng Nghymru
Mae gan Ystâd y Goron werth £169.1 miliwn o eiddo yng Nghymru. Yn bennaf, mae’r rhain yn cynnwys tiroedd amaethyddol, fforestydd, ac eiddo masnachol.
Mae hefyd yn cynnwys yr holl dir o dan y môr hyd at 12 milltir o’r lan a’r hawliau ynni a chloddio am dywod yn yr ardal honno.
Trysorlys Prydain sy’n derbyn holl arian Ystad y Goron ar draws y Deyrnas Unedig ac mae’r grant sy’n cael ei roi i’r Frenhines yn cael ei amcangyfri’ ar y sail honno – yn cyfateb i 15% o’r elw.
Yn dilyn yr adroddiadau am yr Alban heddiw, gallai’r Frenhiniaeth golli rhwng £1m a £1.5m pe bai elw Ystâd y Goron yr Alban yn aros yn yr Alban, yn hytrach na mynd i Whitehall.
Ychwanegodd Hywel Williams fod “gan Blaid Cymru bolisi hirsefydlog i ddatganoli grym dros Ystadau’r Goron o San Steffan i Gymru”.