Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi dweud mai “tynged Cymru” yw efelychu’r Alban a ffurfio Senedd fydd â’r hawl i ddeddfu a chodi trethi.
Yn ystod araith gerbron Aelodau’r Cynulliad heddiw, dywedodd Crabb fod pwysigrwydd Senedd yr Alban “yn dod yn bwysicach” ym mywyd yr Albanwyr.
“Ac rwy’n credu mai dyna yw tynged y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd,” meddai, “I fod yn Senedd.”
Ychwanegodd fod y Senedd bellach yn un o symbolau bywyd yng Nghymru.
“Mae’r amser wedi dod i roi’r dadleuon diddiwedd am bwerau y tu ôl i ni a chanolbwyntio ar sut all y Senedd Gymreig newydd gynhyrchu twf, cynyddu cynhyrchiant a darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus.
“Dyna beth mae pobl yng Nghymru eisiau a dyna beth maen nhw’n ei haeddu.”
Yr economi a mesurau lles
O safbwynt yr economi, dywedodd ei bod yn hanfodol fod “Cymru’n rhannu ffrwyth adferiad economaidd y DU”.
Ymrwymodd Stephen Crabb hefyd, ar ran Llywodraeth Prydain, i Fesur Cyflogaeth a Budd-daliadau Lles a fyddai’n helpu pobol i ddychwelyd i’r gwaith pe bai modd.
“Ers 2010, mae 34,000 yn llai o blant yng Nghymru sy’n cael eu magu mewn cartrefi lle nad yw’r un rhiant yn gweithio.
“Mae hynny’n trawsnewid y bywydau hynny – yr unigolion a’r teuluoedd hynny’n tyfu i fyny yn gweld eilun yn mynd allan i weithio a dod adref â chyflog, gan chwalu’r rhwystrau yn erbyn symudedd cymdeithasol.”
Ychwanegodd y byddai uchafswm yn cael ei osod ar fudd-daliadau, ac y byddai mesurau’n cael eu cyflwyno er mwyn helpu’r genhedlaeth nesaf i ddod yn arbenigwyr yn eu meysydd.
Trethi
Wrth gyflwyno Bil Cyllid, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru y byddai’r lwfans personol cyn talu treth yn codi i £10,600 y flwyddyn nesaf ac i £12,500 erbyn diwedd y cyfnod seneddol presennol.
“Gadewch i ni fod yn glir beth mae hynny’n ei olygu,” meddai. “Bydd pobol ar yr incwm isaf yn talu llai o dreth: mwy o arian yn dychwelyd i’r bobol sydd ei angen fwyaf.”
Ymrwymodd hefyd i sicrhau nad yw pobol sy’n gweithio 30 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog yn talu’r dreth incwm.
“Nawr yw’r adeg pan fo rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad hithau i’r pecyn cyfan drwy wneud cynnydd ar fater pwerau i godi trethi sydd ar gael iddi eisoes.
“Nid oes yr un Senedd arall yn y byd nad oes ganddi gyfrifoldeb am godi arian yn ogystal â’i wario.”
Herio cenedlaetholdeb
Un arall o bynciau trafod Stephen Crabb oedd yr angen i herio cenedlaetholdeb er mwyn cynnal yr Undeb yng ngwledydd Prydain.
“Does dim amheuaeth mai un o heriau gwleidyddol strategol allweddol ein hoes, ynghyd â’r angen i ail-adeiladu ein cyllid cenedlaethol a lleihau’r diffyg, yw’r cyfansoddiad a sut rydym yn aros gyda’n gilydd fel teulu o wledydd.
“Felly un amcan craidd y Llywodraeth yn San Steffan yw ceisio cryfhau’r Deyrnas Unedig fel Un Genedl.
“Mae hynny’n golygu ateb her cenedlaetholdeb wyneb yn wyneb, gan ein bod ni’n credu’n angerddol yn yr Undeb…. ac fe wyddom nad yw dyddiau’r Deyrnas Unedig ar ben.”
Dywedodd fod “ateb yr her” hefyd yn golygu sicrhau cytundeb gwell ar ddatganoli, “nid am ein bod yn credu y dylen ni gwrdd â’r cenedlaetholwyr hanner ffordd, ond oherwydd mai rhan graidd o’n hathroniaeth yw cydnabod…. mai’r allwedd i lwyddiant economaidd ar gyfer gwledydd sydd wedi datblygu yw gwthio grym tuag i lawr ac i ddatganoli.”
Ymateb Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi rhybuddio fod Mesur Cymru arfaethedig y Ceidwadwyr yn brin iawn o’r hyn mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl ac yn haeddu.
Os yw’r setliad datganoli newydd a gyflwynir ym Mesur Cymru i bara, meddai, mae’n rhaid iddo adlewyrchu ewyllys y bobl a pharchu Cymru fel partner cyfartal yn yr undeb.
Rhybuddiodd fod y Llywodraeth Geidwadol wedi dewis a dethol rhannau o argymhellion Comisiwn Silk a bod hyn yn tanseilio’r consensws trawsbleidiol a gyrhaeddwyd.
“Mae Mesur Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DG ymhell iawn o fod yn gytundeb. Mae’n brin o’r consensws y gweithiodd Silk mor galed i’w gael, ac yn brin hefyd o’r hyn mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu.”
“Os yw’r drefn datganoli i bara, rhaid iddi adlewyrchu ewyllys y bobl a pharchu Cymru fel partner cyfartal yn yr Undeb hwn. Mae unrhyw becyn datganoli sy’n trin Cymru yn eilradd yn rhwym o fethu.
“Mae arna’i ofn os mai Papur Gorchymyn Gŵyl Dewi yw sylfaen Mesur Cymru, ei fod eisoes wedi methu prawf amser. Mae’n gadael Cymru ymhell y tu ôl i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac fe fydd yn parhau i adael Cymru ar ei cholled o ran cyllido.”