Mae mentrau gwyrdd ledled Cymru wedi elwa o gael hwb ariannol gwerth dros £35,000.
Nod Cynllun Grant Cymru Gyfan, a gaiff ei redeg gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus a’i ariannu gan yr elw a gaiff ei wneud drwy dalu am fagiau siopa Tesco, yw helpu cymunedau ledled Cymru i gymryd camau gweithredu amgylcheddol, yn ariannol ac yn ymarferol, er mwyn helpu pobl i wella eu hamgylchedd lleol.

Fel rhan o’r cynllun, mae eco-Bwyllgor Ysgol Gynradd Sirol Brynteg, Wrecsam, yn trefnu wythnos o weithgareddau i gynyddu bioamrywiaeth a sicrhau bod dim sbwriel ar dir yr ysgol ac ym Mlaenau Gwent, bydd Gofal Cymunedol Cwm yn adfer gwinllan gymunedol mewn ardal o dir sydd wedi bod yn ddiffrwyth ers yr 1960au.

Mentrau gwyrdd

Lansiwyd Cynllun Grant Cymru Gyfan ym mis Tachwedd 2015, a gall grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau elusennol ledled Cymru wneud cais iddo am grantiau rhwng £100 a £500 sydd ar gael i’w helpu gyda’u mentrau gwyrdd eu hunain.

Hyd yn hyn, mae cyfanswm o £36,462.33 wedi cael ei roi i brosiectau amgylcheddol ledled Cymru.

Prosiectau eraill sydd wedi manteisio ar yr arian yw Clwb Pysgota Corwen a’r Cylch sy’n buddsoddi mewn offer gwell i’w gwneud hi’n haws i’r gwirfoddolwyr gyflawni gwaith cadwraeth hanfodol ar afon Dyfrdwy a casglwyr sbwriel Llangattock Litter Pickers ym Mhowys sy’n defnyddio eu grant i greu deg cafn o flodau yn y pentref.

‘Annog grwpiau i wneud cais’

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydw i wrth fy modd bod grwpiau a phrosiectau amgylcheddol ledled Cymru wedi elwa o hwb ariannol diolch i Gynllun Grant Cymru Gyfan.  Diolch i gefnogaeth cwsmeriaid Tesco, mae’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru, er budd ein cymunedau, gan helpu ein hamgylchedd lleol ac ychwanegu gwerth at ein gwlad brydferth.

“Rydw i’n annog grwpiau i wneud cais am Grant Cymru Gyfan i gael y gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu i ofalu am eu cymuned”.

Dywedodd Josh Hardie, Cyfarwyddwr Corfforol Tesco: “Mae’r cynllun grant newydd yn syniad ardderchog, ac mae’n gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a chefnogi grwpiau lleol i wneud gwaith amgylcheddol gwych yn eu hardal.

“Rydym yn falch iawn o fedru gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus a chymunedau ledled Cymru.”