Mae cwpwl oedrannus wedi cael eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad gyda beic modur yng Nghaerdydd y prynhawn ma.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd y Castell yng nghanol y ddinas am 12.51yp.

Cafodd dynes 83 oed anafiadau difrifol i’w phen, tra bod dyn 85 oed wedi cael anafiadau llai difrifol.

Mae’r ddau yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.