Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dau o bobol wedi i gyrff dyn 52 oed a dynes 35 oed gael eu darganfod yng Nghas-gwent ddydd Gwener.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ruffets Close yn y dref am 11.52 fore Gwener.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i geisio darganfod sut y bu’r ddau farw – does dim esboniad hyd yma.

Ond dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r achos.