Mae glannau Bro Morgannwg ger Llanilltud Fawr yn enwog am erydu (GeographBot CCA 2.0)
Mae gwraig 23 oed wedi marw ar ôl cwymp creigiau ar draeth ym Mro Morgannwg.

De ddigwyddodd y ddamwain ger Llanilltud Fawr ddiwedd y prynhawn ddoe.

Y gred yw fod rhan o glogwyn wedi chwalu a chwympo ar ben y wraig a’i bod wedi marw yn y fan a’r lle.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle tua 5.00pm ddoe – roedd hynny’n cynnwys Heddlu De Cymru, yr ambiwlans a gwylwyr y glannau o Aberdaugleddau.

Dywedodd llefarydd o’r heddlu nad oedd amgylchiadau amheus ynglŷn â’r farwolaeth ac mai “damwain drasig” ydoedd.