Ni ddylid gorfodi ysgolion yng Nghymru a Lloegr i ddarparu cyfnod o addoli ar y cyd, yn ôl y cyn-ysgrifennydd addysg Charles Clarke.

Mae’r gwleidydd hefyd wedi galw am gael gwared a gwersi addysg grefyddol yn eu ffurf bresennol, a’u newid i wersi addysg foesol – er mwyn rhoi cyfle i blant a phobol ifanc benderfynu eu hunain pa grefydd i’w ddilyn.

Fe gyhoeddwyd ei sylwadau mewn adroddiad gan Ddadleuon Crefydd San Steffan.

Ar hyn o bryd mae maes llafur Cymru a Lloegr yn dweud y dylid neilltuo cyfnod o addoli ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol, “er mwyn hybu eu datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol”.

Ond nid yw hyn yn adlewyrchu gofynion ac arferion crefyddol pobol yn yr oes sydd ohoni, yn ôl Charles Clarke.

“Rydym yn cynnig setliad addysg newydd fydd yn meithrin dealltwriaeth well o grefydd a chredoau modern, wedi’i selio ar yr ymchwil diweddaraf,” meddai Charles Clark oedd yn ysgrifennydd addysg rhwng 2002 a 2004.

“Byddai’n caniatáu pobol ifanc i archwilio eu crefydd eu hunain a chrefydd pobol eraill a dod i benderfyniad drostyn nhw eu hunain.”

Gorfodol

Mewn ymateb i’w sylwadau, dywedodd llefarydd o’r Adran Addysg bod addysg grefyddol yn “hanfodol bwysig i helpu plant ddatblygu’r gwerthoedd Prydeinig o oddefgarwch, parch a dealltwriaeth o eraill.

“Mae’n paratoi ein pobol ifanc at fywyd ym Mhrydain fodern a dyma pan bod y gwersi yn orfodol.”