Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Fe fyddai Cyngor Merthyr mewn trafferthion dyrys oni bai am ymyrraeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru.

Fe ddaw hyn i’r amlwg mewn adroddiad gan Archwilydd Cenedlaethol Cymru, sy’n galw ar y Llywodraeth i barhau â’r cymorth allanol i’r awdurdod.

Er bod yr adroddiad yn canmol y cyngor am y ffordd y mae’n mynd ati i geisio gwella ei wasanaethau, mae’n datgan amheuon am ei allu i wneud hynny ar ei ben ei hun.

Gan gydnabod bod y cyngor yn gwella ei drefniadau rheoli ariannol, mae’n pwysleisio’r angen am gymorth ychwanegol i allu gwneud hyn yn iawn.

Mae ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn adran addysg y Cyngor yn cael effaith bositif yn ôl yr archwilydd, ond mae’r gwelliant mewn cyrhaeddiad addysgol disgyblion yn rhy ychydig ac yn rhy araf.

Wrth grynhoi ei adroddiad, meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas:

“Mae Cyngor Merthyr yn gwneud cynnydd, diolch i’r cymorth allanol y mae’n ei dderbyn, ond heb help o’r fath, mae’r rhagolygon ar gyfer parhau i wneud cynnydd yn gyfyngedig. Dyna pam rwy’n annog y Cyngor a Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda’i gilydd i barhau â’r lefel o gefnogaeth. Mae’r Fwrdeistref Sirol yn parhau i wynebu heriau sylweddol ac mae angen iddo ddefnyddio help allanol i gyflwyno ei flaenoriaethau.”