Cafodd sgiper o Ben Llŷn ei ladd ar ôl cael ei glymu gan winsh oedd mewn “cyflwr gwael iawn”, yn ôl adroddiad.
Roedd Gareth Jones, oedd yn 36 oed ac o Forfa Nefyn, yn hwylio ar ei ben i hun ger Porth Dinllaen pan ddigwyddodd y ddamwain ar 30 Mawrth, 2014.
Nid oedd teclyn diogelwch wedi cael ei osod ar y winsh ar ei gwch, y Ronan Orla, meddai adroddiad gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Morol (MAIB).
Ychwanegwyd nad oedd hi’n ddiogel iddo fod yn pysgota ar ei ben ei hun ac nad oedd yr offer ar y cwch wedi cael ei gynnal a chadw’n ddigonol.
Roedd cyflwr gwael y cwch yn awgrymu mai cyfyngiadau ariannol yn hytrach na diffyg ymwybyddiaeth am faterion diogelwch oedd wedi ei rwystro rhag cyflogi aelod arall o griw a chynnal y cwch yn ddigonol, meddai’r adroddiad.
Cafwyd hyd i gorff Gareth Jones tua phedair awr wedi iddo farw, gan bysgotwr arall.
Roedd ganddo flynyddoedd o brofiad fel pysgotwr ar ôl bod yn gweithio fel casglwr cregyn bylchog.
Mae MAIB wedi gwneud cyfres o argymhellion diogelwch.